Wyddoch chi fod llawer o fusnesau yn yr Wyddgrug yn croesawu cŵn?
Mae croeso mawr ichi ddod â’ch cyfaill pedeircoes i’r Wyddgrug. Mae nifer cynyddol o fusnesau’n croesawu cŵn ac mae ganddynt wasanaethau ar gael iddynt, fel powlen ddŵr ar eu cyfer. Ac ar ben hynny mae gan rai ohonynt fisgedi cŵn er mwyn rhoi anrheg fach ychwanegol iddynt! Hefyd, mae gennym ni fwytai sy’n croesawu cŵn a digonedd o leoedd agored glaswelltog lle gallwch fynd â’ch ci am dro o gwmpas Bryn y Beili ym mhen ucha’r dref.
Mae croeso i bob ci ym Mryn y Beili - o gŵn Affgan i Ddaeargwn (a phob brîd arall rhwng yr uchod). Gall llethrau’r mwnt fod yn llecyn atyniadol i gŵn; fodd bynnag, cofiwch beidio â gadael iddynt redeg i fyny ac i lawr y llethrau - rydym yn ceisio sicrhau nad yw’r tir yn cael ei erydu. Os oes llawer o bobl o gwmpas, yn enwedig plant, byddem yn dra diolchgar pe gallech gadw’ch ci ar dennyn.
Byddwch cystal â sicrhau eich bod yn gofalu am eich ci mewn ffordd gyfrifol. Felly cofiwch ddod â’ch bagiau baw ci gyda chi a chael gwared â hwy yn y biniau sydd i’w cael ledled y dref ac o gwmpas Bryn y Beili.
Mae’r busnesau a restrir isod yn croesawu cŵn neu gellir gweld y busnesau hyn ar y rhestr Busnesau a Chymuned, gyda logo ôl pawen ci wedi’i osod gyferbyn ag enw’r busnes.
Academy of Design
Accounting & Bookkeeping Consultancy Ltd
A F Architectural Designs
All About You Hair & Beauty
Beans Blooms
Beaufort Park Hotel
British Heart Foundation
Celtic Financial Planning Ltd
Cresta Cars
Daniel Owen Community Centre
Family Tree Wealth Management
Glasfryn
Goldfields Jewellers
Hays Travel
Headquarters
KMA Tool Hire & Sales
Louboo Pet Grooming
Meraki Beauty Ltd
Mold Alehouse
Mold Indoor Market
My Moroccan Folly
New Home 4U Ltd
North Wales Animal Rescue (Charity Shop)
Pen Y Bont Farm
Poochie Pampers Dog Grooming
RainbowBiz Hippy Shop
Sliding Robes
Spavens
Spoons & Forks
Tails a Waggin
The Gathering
Vaughan Davies
Wild Bird & Pets
Wildcats Shoes & Accessories
Y Pentan
3B3D Printing Solutions