Mae gan yr Wyddgrug galendr gwych o wyliau ac achlysuron sy’n cynnig rhywbeth cyffrous i bawb drwy gydol y flwyddyn.
Boed hynny’n gyfranogi yn rasys crempog traddodiadol y dref, mwynhau un o’r amryw achlysuron cerddoriaeth fyw, cynhyrchiad theatr, profi’r dewis blasus o fwyd a diod yn yr ŵyl fwyd, cynorthwyo twtio canol y dref yn y Glanhau Mawr blynyddol neu ddarganfod y cwrw arbennig hwnnw yng Ngŵyl Dachwedd, wir i chi mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yma yn yr Wyddgrug.
Bydd gwyliau ac achlysuron blynyddol yr Wyddgrug yn denu niferoedd o ymwelwyr i’r dref yn rheolaidd, wrth ganolbwyntio ar ymdeimlad cryf o gymuned. Dyma ddetholiad bach o achlysuron blynyddol mwyaf yr Wyddgrug.
Sylwch: gallai unrhyw rai o'r digwyddiadau hyn newid / gael eu canslo
Cyngor Tref yr Wyddgrug e-bost: events@moldtowncouncil.org.uk
Ymunwch â ni am siwrne ddifyr trwy strydoedd hanesyddol Yr Wyddgrug. Byddwch yn archwilio treftadaeth a straeon cyfoethog y dref gyfarweddol hon wrth inni grwydro strydoedd eiconig.
Mae’r cwmni buddiannau cymunedol Sunday Gathering CIC yn fudiad nad yw’n dosbarthu elw. Nod y mudiad yw dod ag artisaniaid newydd i’r Wyddgrug a helpu i ddenu mwy o bobl i’r dref ar ddydd Sul.
Gŵyl Cwrw Go Iawn
| Pryd: | 14 - 15 Tachwedd 2025 |
| Amser: | Mae amseroedd y sesiynau'n amrywio |
| Ble: | Y Pod (Neuadd Eglwys y Santes Fair gynt), Stryd y Brenin, yr Wyddgrug CH7 |
| Trefnydd: | Cyngor Tref yr Wyddgrug |
| Cysylltwch: | events@moldtowncouncil.org.uk |
| Cyfryngau: | |
| Gwefan: | moldnovemberfest.org.uk |
| Tocynnau: | Gwelwch y wefan |
| Oriel | Oriel Digwyddiadau |
Gorymdaith a gwasanaeth coffa blynyddol
| Pryd: | 9 Tachwedd 2025 |
| Amser: | 09:30 - 12:00 |
| Ble: | Gorymdaith o Sgwâr Daniel Owen i Eglwys Santes Fair ac yna i'r Gofeb Ryfel |
| Trefnydd: | Cyngor Tref yr Wyddgrug |
| Cysylltwch: | events@moldtowncouncil.org.uk |
| Oriel | Oriel Digwyddiadau |
2 funud o dawelwch am 11am ar y sgwâr
| Pryd: | 11 Tachwedd 2025 |
| Ble: | Sgwâr Daniel Owen |
| Trefnydd: | Cyngor Tref yr Wyddgrug |
| Cysylltwch: | events@moldtowncouncil.org.uk |
Troi’r goleuadau ymlaen gydag adloniant cerddorol a ffair
| Pryd: | 25 Tachwedd 2025 |
| Amser: | 15:30 - 19:30 |
| Ble: | Sgwâr Daniel Owen / Stryd Fawr, Yr Wyddgrug CH7 1AB |
| Trefnydd: | Cyngor Tref yr Wyddgrug |
| Cysylltwch: | events@moldtowncouncil.org.uk |
| Oriel | Oriel Digwyddiadau |
Dathliad blynyddol troi’r Goleuadau Nadolig ymlaen gydag adloniant cerddorol ar Sgwâr Daniel Owen o 3.30pm; adloniant gan gorau ysgolion yr Wyddgrug, y Dywysoges Elsa, Band Roc a Phop Theatr Clwyd ac ymweliadau gan gymeriadau o Bluey & Bingo. Bydd reidiau’r ffair ar y Stryd Fawr o 4pm a stondinau ar y sgwâr o hanner dydd. Bydd Siôn Corn yn cyrraedd i droi’r Goleuadau Nadolig ymlaen am 6.30pm ar Sgwâr Daniel Owen a bydd yn cyfarch plant yn y groto ar ôl troi’r goleuadau ymlaen.
Marchnad Nadoligaidd ac adloniant
| Pryd: | 7 Rhagfyr 2025 |
| Amser: | 10:00 - 16:30 |
| Ble: | Sgwâr Daniel Owen / Stryd Fawr, Yr Wyddgrug CH7 1AB |
| Trefnydd: | Cyngor Sir y Fflint / Cyngor Tref yr Wyddgrug |
| Cysylltwch: | events@moldtowncouncil.org.uk |
| Cyfryngau: | |
| Oriel | Oriel Digwyddiadau |