Mae gan yr Wyddgrug galendr gwych o wyliau ac achlysuron sy’n cynnig rhywbeth cyffrous i bawb drwy gydol y flwyddyn. Bydd Calendr Achlysuron yr Wyddgrug yn cael ei ychwanegu unwaith y cawn gadarnhad y gallwn gynnal achlysuron yn unol â Rheoliadau a Chanllawiau Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r COVID-19.
Boed hynny’n gyfranogi yn rasys crempog traddodiadol y dref, mwynhau un o’r amryw achlysuron cerddoriaeth fyw, cynhyrchiad theatr, profi’r dewis blasus o fwyd a diod yn yr ŵyl fwyd, cynorthwyo twtio canol y dref yn y Glanhau Mawr blynyddol neu ddarganfod y cwrw arbennig hwnnw yng Ngŵyl Dachwedd, wir i chi mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yma yn yr Wyddgrug.
Bydd gwyliau ac achlysuron blynyddol yr Wyddgrug yn denu niferoedd o ymwelwyr i’r dref yn rheolaidd, wrth ganolbwyntio ar ymdeimlad cryf o gymuned. Dyma ddetholiad bach o achlysuron blynyddol mwyaf yr Wyddgrug.
Theatr Clwyd, cynyrchiadau di-ail a wnaed yma yn yr Wyddgrug i waith gwobrwyol – gwelwch beth sy’n digwydd.
Os ydych chi’n chwilio am rywle lleol i aros, gwelwch ein rhestr llety yn yr Wyddgrug a’r cylch.